Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Mercher, 22 Chwefror 2012

Calendr Digwyddiadau

    • 2/23/2012 : 7:00 PM - 11:00 PM
       
      Darlith Flynyddol Canolfan Materion Cyfreithi
    • Bethan Davies

      bsd08@aber.ac.uk

      Ystafell C22 Adeilad Hugh Owen
      Campws Penglais
      Aberystwyth

      Darlith flynyddol Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig Dyfodol yr heddlu yng Nghymru/A future for policing in Wales. Dr Timothy Brain cyn Prif Gwnstabl Caerloyw, ac awdur 'A History of Policing in England and Wales from 1974: A Turbulent Journey' Nos Iau, Chwefror 23ain 2012 am 7yh Ystafell C22 Adeilad Hugh Owen, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth. Croeso i bawb!

    • 2/25/2012 - 4/7/2012 : 9:00 AM - 11:00 PM
      £am ddim
      Lab Craft
    • Kathryn Campbell

      kcampbell@carmarthenshire.gov.uk

      Oriel Myrddin Gallery
      Caerfyrddin

      Ar daith o’r Crafts Council, Llundain Criw o 26 o grefftwyr yw Lab Craft sy’n cyfuno gwaith llaw,meddwl, llygad, meistrolaeth dechnegol ar offer a defnyddiau,ac ymwybyddiaeth esthetig, gyda’r technolegau digidol diweddaraf. Gan ddefnyddio technegau prototeipio cyflym, torri laser, sganio laser ac argraffu digidol, mae Lab Craft yn ymchwilio i ddefnydd technoleg fel estyniad i alluoedd y llaw ddynol. Dan ofal Max Fraser, mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith gan rai o’r enwau mwyaf arbrofol sy’n gweithio ar hyn o bryd ym maes crefft a dylunio, gan gynnwys Tord Boontje, Michael Eden, Gareth Neal, Timorous Beasties a Nina Tolstrup, llawer ohonynt yn dangos gwaith arloesol nas gwelwyd o’r blaen. Cyflwynir tecstilau, cerameg, dodrefn, gemwaith, gwydr, golau a llawer mwy i ysgogi dychymyg unrhyw un sydd â diddordeb mewn crefft, defnyddiau, dylunio a thechnoleg.

    • 2/25/2012 : 7:00 PM - 11:00 PM
      £2
      Noson yng nghmni Aled Samuel ( Pedair Wal)
    • Luned Davies

      daviesluned@yahoo.co.uk

      Neuadd Myddfai
      Myddfai

      Ar nos Sadwrn Chwefror 25ain yn neuadd Myddfai bydd noson yng nghwmni Aled Samuel (pedair wal) yn cael ei chynnal. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael a chost mynediad fydd £2.

    • 4/14/2012 - 5/26/2012 : 9:00 AM - 10:00 PM
       
      Mandala Llwch Glo - Jonathan Anderson
    • Kathryn Campbell

      kcampbell@carmarthenshire.gov.uk

      Oriel Myrddin Gallery
      Caerfyrddin

      Does dim byd yn para am byth …” Esiampl o natur dymhorol gwaith Anderson yw ei ddiddordeb mawr mewn glo fel trosiad ac fel cyfrwng. Mae glo wedi’i greu o hen ddyddodion carbon; gellid dweud ei fod yn cynrychioli ein dechrau a’n diwedd yn y pen draw. Ar ben hynny, yng nghyd-destun de Cymru, mae’n llwythog â symbolaeth ac ystyr cymdeithasol a gwleidyddol. Rywsut mae Anderson yn cydbwyso treftadaeth emosiynol glo â phrydferthwch dirgel ei sylwedd; ei ddüwch disglair hudol. Mae Anderson yn defnyddio glo mewn ffordd ddefodol bron, yn ddyddiol, i wneud ei ‘fandala’ llwch glo. Cyfansoddir pob gwaith o ffurf solet sydd wedi’i ffurfio’n ofalus drwy osod haenau o lwch glo ar ddarn dethol o ddeunydd darfodedig. Mae’r gweithiau’n meddu ar rym trosgynnol a barddonol.